Croeso i Traed Fyny – Feet Up

Darparu triniaethau holisitg, proffesiynol a chyfeillgar yn Ninbych, Gogledd Cymru yn arbenigo mewn Adweitheg. Yn falch o gynnig gwasanaeth lawn dwyieithog i gleientiaid.

'Helpa dy hun i wella'

MWY AM NIA

Mae gan Nia Ddiploma Lefel 5 fel Ymarferydd Adweitheg. Dyma’r lefel uchaf o gymhwyster ar gyfer Adweitheg yn y DU. Cymhwyster a neilltuir i nyrsio, a’r pynciau a’r galwedigaethau perthynol i’r sector feddygaeth, ar hyn o bryd.

Dinbych, Gogledd Cymru
nia@traedfyny-feetup.co.uk

BETH YW ADWEITHEG

Adweitheg yw triniaeth ymlaciol iawn, a ddefnyddir gan lawer i leihau straen, gorbryder, tensiwn a phoen. Mae’n hen gelfyddyd gwellhad a ddefnyddir drwy weithio’r dwylo ar y traed i symbylu gwasgbwyntiau. Mae’n seiliedig ar y ddamcaniaeth y gellir gweld map o weddill y corff ar y traed. Rhoddir pwysau ar bwyntiau atgyrchol sydd wedi eu mapio ar draed y cleientiaid. Mae’r pwyntiau atgyrchol hyn yn cyfateb i organau penodol a rhannau o’r corff drwy feridians egni.

Cysylltwch

    Cymraeg
    English