Straen a Phryder: Camau syml i leihau straen a phryder yn ystod y cyfnod cythryblus hwn

Sut allwch chi helpu eich hunain i deimlo’n well, i waredu’r pryderon sy’n gorlenwi eich meddwl? Ydych chi’n gweithio oriau hirach? Ydych chi’n gyfrifol am blant ifanc egnïol drwy’r dydd? Ydi hyn yn niweidio eich traed?

Beth am geisio mynd i’r afael â’r problemau drwy gamau/ymarferion byr a hawdd.

Y Pwynt Plecsws Solar

A oes rhyw deimlad anesmwyth yn eich stumog? Rhyw deimlad annifyr o dan gawell eich asennau? Rhywbeth sydd ddim yn taro deuddeg, sy’n eich rhwystro rhag ymlacio? Clwstwr o nerfau ychydig o dan eich cawell asennau, yn agos at eich stumog, yw’r plecsws solar. Gyda straen daw’r cwlwm tynn hwnnw a’r ymdeimlad o gorddi yn y rhan honno o’r corff. Bydd y plecsws solar tynn hwn yn ei dro yn tynhau’r llengig, gan achosi i rywun anadlu’n fas ac yn aml yn gyflym, neu hyd yn oed ddal ei anadl. Cysylltir hyn i gyd â thensiwn a straen.

Yr ateb felly yw llacio’r plecsws solar. Ond sut?

Mae’r llun hwn yn dangos sut i ddod o hyd i’r plecsws solar yn hawdd drwy ‘ blygu ‘ y droed. Fe’i lleolir lle mae’r llinell ‘ plygu ‘ yn croesi’r llinell lle mae’r lliw yn newid, rhwng y bwa a phelen y droed. Dyma’r fan lle mae angen i chi bwyso eich bawd, gan anadlu allan yn ddwfn ddwy i dair gwaith. Canolbwyntiwch ar un droed ar y tro os ydych chi’n ei wneud eich hun, neu ar y ddwy droed ar yr un pryd os ydych chi’n gweithio ar draed rhywun arall.

Dylai edrych fel hyn –

Yr Atgyrch Adrenal

Mewn cyfnod o straen byddwn yn gorlwytho ein chwarennau adrenal, a leolir uwchben y ddwy aren. Er eu bod yn fach, maent yn secredu hormonau sydd â rolau hanfodol yn ein cyrff. Yn ogystal â swyddogaeth amlwg yr arennau, maent hefyd yn effeithio ar ein datblygiad cyffredinol. Ond yn bwysicach yma, mae’r hormonau epineffrin a norepineffrin yn allweddol yn ein hymatebion ymladd neu ffoi (fight or flight). Bydd gormod o straen yn rhoi pwysau gormodol ar y chwarennau hyn, gan achosi i’r corff ymateb drwy ddangos symptomau’n gysylltiedig â blinder difrifol. Ydych chi erioed wedi teimlo fel cyrlio fyny a mynd i gysgu? Diffodd popeth? Dim ond i ddeffro a darganfod bod eich holl bryderon yn llifo’n ôl? Mae hyn yn golygu eich bod wedi gorweithio eich chwarennau adrenal. Y nod yw osgoi cyrraedd y sefyllfa yma.

Mae’r atgyrch adrenal wedi’i leoli ger y bawd mawr. Os gallwch bwyntio eich bawd mawr ar i fyny, bydd llinell y tendon yn amlwg o dan belen eich bawd mawr. Mae’r atgyrch wedi ei leoli ar yr ochr fedial (tuag at ochr y bawd mawr – felly i gyfeiriad croes ar y ddwy droed). Wedyn chwiliwch am y pwynt hanner ffordd rhwng pelen y bawd mawr a’r pwynt uchaf ar fwa eich troed.

Rhowch bwysau dwfn, ond ysgafn gyda’ch bawd ar y pwynt hwn, am un i ddau funud. Fel gyda’r plecsws solar, os ydych yn gwneud hyn eich hun, ewch o’r naill droed i’r llall, neu, gyda phartner/ffrind dibynadwy, gwneud y ddwy droed ar yr un pryd.

Dylech ddechrau teimlo’n fwy ymlaciol, ar ôl lleddfu’r tensiwn, a dyfnhau’r anadlu.

Gadwch i mi wybod sut hwyl gewch chi efo’r uchod.