Adolygiadau

I fod yn hollol onest, dwi’n casau fy nhraed, ac oherwydd hynny dydw i ddim yn awyddus i unrhyw un fod yn agos atynt. Fe wnaeth angerdd Nia tuag at Adweitholeg ennyn chwilfrydedd ynnof, i weld os oedd yn bosib i mi oroesi fy mhryder bach, a gadel iddi weithio ei hud. Wel, rwyf mor falch fy mod wedi mentro. Wna’i fyth edrych yn ôl, ac mae gen i slot misol rwan - amser i mi fy hun! Mae’r proffesiynoldeb, gwybodaeth a chynhesrwydd sydd yn byrlymu gan Nia y tu hwnt i’r disgwyl. Ni fuaswn yn cymeradwyo unrhyw un arall, ac os ydych angen ychydig o amser i chi’ch hun, rydych angen gweld Nia, a gadael iddi weithio ei hud.

Doeddwn i methu credu’r peth – ar ôl un sesiwn efo Nia ddoish i ‘mlaen! Fyswn i ddim fel arfer yn cyhoeddi hyn, ond mae’n golygu gymaint i ni fel cwpwl ‘dio ddim bwys gen i am rannu! Mae ein breuddwyd o fod yn rieni ‘chydig bach fwy real rwan!

Adweitheg ardderchog! Mae Nia mor broffesiynol, gwybodus a chroesawgar. Mae’r ‘stafell driniaeth mor ymlaciol. Diolch o galon.

Triniaeth ymlaciol hyfryd gan Nia mewn awyrgylch mor gyfforddus. Mi fyddaf yn ôl yn fuan.

Tylino pen ffantastig; cysurlon ac adfywyiol. Dwi’n argymell y cwmni newydd hwn yn fawr.... Mae'r ystafell driniaeth yn hyfryd!

Roedd Nia’n hynod broffesiynol a chroesawgar i rywun sydd byth wedi trio adweitheg o’r blaen. Methu aros nes y sesiwn nesa, dwi’n argymell yn fawr! Lle i ymlacio’n llwyr – perffaith.

Tylino hollol wych noson o’r blaen. ‘Stafell hyfryd......merch hyfryd!

Diolch am yr adweitheg neithiwr – fe aeth y cur pen ac mi ges i’r noson orau o gwsg i mi ei chael ers tro. Byd o les!

Wir wedi mwynhau y driniaeth. Fe wnes i ymlacio’n llwyr. Diolch yn fawr iawn.

Ymlaciol iawn, pen a dwylo nesaf. Diolch yn fawr.

Triniaeth gwych, gwybodus a phroffesiynol iawn.

Triniaeth mor ymlaciol. Mae Nia mor lyfli, proffesiynol a chroesawgar. Dwi wedi bwcio’r sesiwn nesa’ gyda hi’n barod. Mae hi hefyd yn siarad Cymraeg!

Doeddwn i ddim wedi dychmygu y buasai Reflexology yn gallu fy helpu i yn y broses o wella gymaint ac y mae o wedi ei wneud. Mae Nia o'r funud cyntaf wedi gwneud i mi deimlo'n gartrefol, gwrando ar fy mhryderon, a thrafod sud i gael y gorau allan o'r driniaeth. Sesiwn sy'n cynnig rhywbeth unigryw i 'ch anghenion chi, hefo angerdd ac ymroddiad gan Nia. 
 Mi fyswn i'n annog unrhyw un i ymweld a rhoi 'Traed Fyny'.