Adweitheg Wyneb

Adweitheg Wyneb

Mae Adweitheg Wyneb yn cynnig holl fuddion Adweitheg dwylo neu draed, ond gydag un effaith ddymunol arall – mae’n creu teimlad o les ar y tu mewn a’r tu allan. Gan ryddhau straen, tensiwn ac emosiynau a ddelir yn yr wyneb, bydd cleientiaid yn edrych yn well, yn iachach ac yn fwy ifanc, heb anghofio’r wedd ddisglair. Defnyddir ‘Zone Face Lift, Facial Elixir’ gwobrwyedig yn ystod y driniaeth i faethu’r croen ymhellach. Mae’r Elixir sydd wedi’i drwytho ag amethyst, gyda’i gyfuniad o berlysiau cysegredig a’i briodweddau gwrth-heneiddio, yn hydradu ac yn tynhau’r croen, ac mae’n gynnyrch perffaith i gyd-fynd â’r driniaeth sy’n hynod ymlaciol.