Beth yw Adweitheg

Beth yw Adweitheg

Mae gweithredoedd atgyrch yn y traed, dwylo, clustiau a’r wyneb, ac maent yn cyfateb i holl organau, chwarennau, a rhannau o’r corff. Mae gweithio’n unswydd ar y gweithredoedd atgyrch hyn, naill ai yn y traed, dwylo, clustiau neu’r wyneb, yn fath o therapi iechyd cyflenwol ac anymyrgar all liniaru nifer ac amryw o anhwylderau all fod yn drafferthus i’r unigolyn. Mae’r therapi yn gweithio’n dda ochr yn ochr â gofal meddygol confensiynol drwy roi cymorth i’r corff ddarganfod ei gydbwysedd unwaith yn rhagor, gan gychwyn ar y broses o wella ei hun. Mae’n therapi holistig sy’n ymdrin â’r corff a’r meddwl – lles corfforol a meddyliol.

* Rwyf wedi cymhwyso i weithio gyda’r traed a/neu’r dwylo

Yn syml, mae’r traed a’r dwylo yn ymdebygu i fapiau o’r corff. Mae modd darganfod popeth sydd angen ei wybod am sut mae’r holl gorff yn gweithio yn y traed. Gellir dweud fod y traed fel biniau sbwriel y corff! Gall adweithegwyr ganfod ‘sbwriel’ y corff ar ffurf crisialau calsiwm, asid lactig neu wrig, neu waddodion lymffatig sy’n ymgasglu yn y traed, ac yn rhwystro’r corff rhag gweithio’n gywir.

Nid mympwy yr oes Brydeinig fodern ydy Adweitheg, nac ychwaith ffasiwn dros dro. Mae’n ffynnu mewn sawl diwylliant heddiw, ac mae ei wreiddiau yn niwylliannau hynafol ein byd. Ceid tystiolaeth o’r math yma o ymarfer mewn beddrod yn yr Aifft, hefyd yn Tsieina, ac mor bell â 5000 o flynyddoedd yn ôl, yn yr India.

Sut mae Adweitheg yn gweithio?

Pwrpas y driniaeth ydy adnabod mannau penodol o ddiffyg cydbwysedd, drwy ddefnyddio’r bysedd a’r bodiau i roi pwysedd ar rannau y traed, dwylo, clustiau neu’r wyneb. Y rhannau hyn ydy’r gweithredoedd atgyrch. Ar ôl adnabod y mannau hyn, bydd yr adweithegydd yn cynllunio rhaglen o dylino pwysedd fydd yn unigryw i bob unigolyn. Drwy roi pwysedd mewn modd arbennig, caiff y nerfau a’r llif gwaed i’r mannau cyfatebol yn y corff eu cyfnerthu. Bydd hyn felly yn mynd i’r afael â’r diffyg cydbwysedd a bydd y corff yn dechrau gwella ei hun. Mae gweithio yn awra’r corff o gwmpas y gweithredoedd atgyrch hyn yn rhoi’r un math o effeithiau gwella pwerus.

Yr unig beth sydd ei angen ar gyfer Adweitheg y traed ydy bod rhaid tynnu eich esgidiau a’ch ‘sanau. Yna, byddwch yn eistedd yn ôl ac yn ymlacio mewn Lafuma gyfforddus (math o gadair i ymlacio). Pan fo’r corff wedi ymlacio, bydd yn dechrau ar y broses o wella ei hun. (Meddyliwch am y dywediad – mewn panig, anadlwch yn ddwfn. Pam? I bwyllo, i gynorthwyo’r ymlacio. Byddwch yn ymlacio mewn sesiwn Adweitheg). Ar ôl ychydig sesiynau, byddwch yn synnu at sut bydd eich corff yn gwella ei hun, ac yn gwneud i chi deimlo fel person newydd, â’r pwysau wedi codi. Dyna beth fydd teimlad braf.

Bydd gwasgarwr perarogl â golau sy’n newid lliw wedi ei osod yn gynnil yn fy ystafell driniaeth, i ategu’r ymdeimlad o fod mewn hafan dawel, mewn amdo o gymysgeddau aromatherapi. Cymorth perffaith i’ch cynorthwyo i anghofio am holl brysurdeb a chyffro’r byd, a dod o hyd i’ch man ymlaciol a chlyd.

Pwy fydd yn elwa?

Yn fyr – un ac oll! Ond, mae’n arbennig o werthfawr i’r rhai sydd yn dioddef o amrywiol effeithiau emosiynol, seicolegol a chorfforol a achosir drwy fod o dan straen. Mae straen wrth wraidd sawl salwch corfforol yn o gystal â salwch meddwl. Bydd Adweitheg yn cynorthwyo’r gallu i ymlacio, ac felly yn lliniaru neu yn cael gwared â’r straen, drwy gael gwared â’r diffyg cydbwysedd, ac annog y corff i wella ei hun. Yn ystod y driniaeth, byddaf hefyd yn trafod ac yn rhoi cyngor ar ddulliau amgen o gynorthwyo’r broses o ymlacio. Yn yr ymgynghoriad cyntaf gyda mi, byddaf yn casglu’r holl wybodaeth berthnasol – er enghraifft, ar gyfer patrymau diffyg cwsg, fe drafodwn ddeiet, arferion a phatrwm bywyd, gan ymarfer y dull holistig llawn.

Mae’r rhestr o fuddion yn hir; fe enwir ychydig ohonynt isod –
• Lliniaru poenau cyffredinol – hefyd arthritis, meigryn a chur pen, tensiwn yn y cyhyrau, a phoenau yn dilyn llawdriniaeth
• Gwella’r cylchrediad
• Gwella cwsg
• Gwella’r system imiwnedd
• Gwaredu tocsinau
• Misglwyf trwm
• Lliniaru’r sinws
• Lliniaru asthma
• Lliniaru ecsema
• Ymlacio yn ystod beichiogrwydd
• Lliniaru problemau treulio – IBS, rhwymedd, dŵr poeth
• Lliniaru ffibromyalgia
• Mynd i’r afael â rhwystrau beichiogrwydd (gwryw a benyw)

Oes gennych unrhyw gwestiwn neu amheuon?