Cwestiynau Cyffredin

A oes angen gwisgo dillad arbennig?

Rwyf yn cynghori ichi wisgo dillad hamdden/llac. Bydd rhaid tynnu eich esgidiau a’ch ‘sanau. Weithiau, byddaf yn gweithio i fyny’r goes, hyd at y ben-glin, felly cadwch hyn mewn cof.

A fyddaf yn eistedd neu yn gorwedd?

Mae gen i gadair Lafuma arbennig – tebyg i gadair i eistedd yn yr haul, ond ei bod yn fwy cyfforddus, ac yn gwyro mwy.

Mae gen i draed gogleisiog, a wyf yn addas ar gyfer y driniaeth?

Nid yw fy nhechnegau yn ysgogi unrhyw deimladau gogleisiog!

A fydd y driniaeth yn boenus?

Dim o gwbl. Fe all rhai mannau deimlo ychydig yn dyner oherwydd y tocsinau/anghydbwysedd fydd wedi cronni, ond bydd gweithio ar y gweithredoedd atgyrch yn datod y clystyrau hyn. Rwyf yn ffyddiog y byddwch yn mwynhau’r teimlad. Does dim i’w golli drwy roi cynnig arni!

Ble byddwch yn cynnal y driniaeth?

Mae gennyf fy ystafell driniaeth benodol fy hun, ar y llawr gwaelod. Nid oes unrhyw stepen na gris wrth ddod mewn. Mae gennyf hefyd doiled ar y llawr gwaelod. Rwyf hefyd yn cynnig triniaeth symudol gyfyngedig, o fewn pellter teithio rhesymol.

Sawl sesiwn fyddaf ei angen?

Byddaf yn asesu ac yn egluro hyn yn yr ymgynghoriad cyntaf. Gan fod pob triniaeth yn unigryw, nid oes dau gynllun yr un fath. Mae rhai angen mwy nag eraill, neu angen llai o amser rhwng y sesiynau. Yn gyffredinol, cynghoraf leiafswm o bedwar sesiwn, er bod un sesiwn hefyd yn boblogaidd – yn aml fel anrheg.

Sut mae archebu sesiwn?

Pa bynnag ffordd sy’n addas i chi; drwy sgwrsio gyda mi, anfon neges destun, anfon neges breifat i mi ar wefannau cymdeithasol neu drwy anfon e-bost. Byddwch yn dawel eich meddwl fy mod yn parchu cyfrinachedd y cleient bob amser.

Mae canslo weithiau yn anochel. Serch hynny, os yn bosib, gofynnaf yn garedig i chi roi gymaint o rybudd am hyn ag sydd bosibl, fel bod modd imi drefnu sesiwn i gleient arall. Os na chaf rybudd eich bod yn canslo 24 awr cyn y sesiwn, mae’n bosib y byddaf yn codi ffi o 50% o gost y sesiwn hwnnw.

Dal yn ansicr? Cysylltwch os gwelwch yn dda