Mwy am Nia

Nia ‘dw i, Adweithegydd Clinigol yn ardal Dinbych, Gogledd Cymru.

Yn 2016, roeddwn rhwng dau feddwl. Roeddwn yn feichiog gyda’r mab ieuengaf ac yng nghanol adeiladu estyniad ar y tŷ. Doeddwn i ddim yn sicr a oeddwn am ddychwelyd i’m swydd bresennol ar ddiwedd fy nghyfnod mamolaeth. Roeddwn yn ysu am ychydig o amser i fi fy hun, ac felly es am driniaethau adweitheg. Hwn oedd y tro bwynt yn fy mywyd!

Ar ôl derbyn y triniaethau a phrofi buddion Adweitheg, penderfynais y dylai eraill ei phrofi hefyd. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roeddwn wedi dechrau ar hyfforddiant Diploma Lefel 5 mewn Adweitheg i Ymarferwyr gydag Ysgol Iechyd Naturiol Gaia. Hwn yw’r lefel uchaf o gymhwyster sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig.

Rwy’n angerddol am bob dim byddaf yn ei wneud, a byddaf yr un mor angerddol tuag at eich iechyd a’ch lles chi.

Mewn byd mor brysur, gyda gofynion a phwysau o bob cyfeiriad, mae’n hanfodol ein bod yn canolbwyntio arnom ein hunain. Gofynnwch i’ch hun, pryd oedd y tro diwethaf i chi roi eich traed i fyny? Rydym i gyd mor dda am ailwefru ein ffonau, ond a ydym yr un mor dda am ailwefru ein hunain?

Helpwch eich hun i wella a rhowch eich Traed i Fyny.