Mwy

Fideos Hunan-Ofal

Cur Pen

Sinus

Menopôs

Insomnia

Gweithle Diogel Covid

Mae’r canllawiau isod wedi eu gosod er mwyn sicrhau bydd eich triniaeth yn digwydd mewn amgylchedd fydd mor ddiogel â phosib.

• Os ydych chi, neu rywun rydych wedi bod mewn cyswllt â nhw, yn dangos symptomau Covid-19, yna gohiriwch eich triniaeth os gwelwch yn dda.
• Bydd asesiadau dros y ffon yn digwydd ar y diwrnod cyn eich apwyntiad, gan gynnwys yr ymgynghoriad cyntaf, fydd yn digwydd dros y ffon neu drwy alwad fideo.
• Bydd y taliad yn ddyledus yr un adeg a’r ymgynghoriad, ac fe ellir ei wneud drwy drosglwyddiad banc. (Os nad yw trosglwyddiad banc ar lein yn bosib, a fyddech gystal â dod a’r union swm sydd yn ddyledus).
• Ni ellir gadael i unrhyw driniaeth fynd dros un awr.
• Gwisgwch fasg wyneb priodol.
• Mi fydda i’n gwisgo masg a feisor wyneb, ac fe gant eu newid / di-heintio ar gyfer pob client.
• Diheintiwch eich dwylo wrth gyrraedd, ac yna wrth adael.
• Bydd bocs i chi roi eich eitemau personol ynddo yn union wedi cyrraedd, a bydd y bocs yn cael ei ddiheintio rhwng pob client. Ymdrechwch i ddod â chynlleied o eiddo personol a phosib gyda chi.
• Bydd yr ystafell yn cael ei glanhau a’i hawyru rhwng pob client, gyda lleiafswm amser o 30 munud rhwng pob client.
• Bydd blancedi yn parhau i gael eu cynnig, a byddent yn cael eu golchi ar ôl pob client, yn ogystal â’r tyweli a’r gorchudd dros y gadair.
• Dowch a’ch dŵr i yfed eich hun, os gwelwch yn dda, gan nad wyf yn gallu ei gynnig i chi ar hyn o bryd.

Eisiau gwybod pa bwyntiau Adweitheg Traed / Llaw sy’n cyfateb i ba ran o’r corff? Cliciwch ar y mapiau i weld mwy.