Prisiau a Chynigion

Adweitheg Traed

Sesiwn Adweitheg Cyntaf: £45
Fe gymerir manylion trylwyr am hanes meddygol y client, gyda thriniaeth lawn o Adweitheg ymchwiliol i ddilyn. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn hwyluso cynllun o driniaeth bwrpasol a ddarperir ar gyfer y gyfres o driniaethau i ddilyn. Bydd y sesiwn hwn yn cymryd hyd at 90 munud.

Sesiynau i ddilyn: £45
Hyd y sesiynau hyn ydy 60 munud, i gynnwys hyd at 10 munud i’r client gael adrodd yn ôl ar / rhoi sylwadau ar sut mae wedi teimlo ers y sesiwn cyntaf. Yna, fe geir 50 munud o driniaeth.

Gostyngiad pris am gyfres o driniaethau
4 x 60 munud = £130 (Arbed £12)

Adweitheg Dwylo

Sesiwn Adweitheg Cyntaf: £45
Fe gymerir manylion trylwyr am hanes meddygol y client, gyda thriniaeth lawn o Adweitheg ymchwiliol i ddilyn. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn hwyluso cynllun o driniaeth bwrpasol a ddarperir ar gyfer y gyfres o driniaethau i ddilyn. Bydd y sesiwn hwn yn cymryd hyd at 90 munud.

Sesiynau i ddilyn: £32
Hyd y sesiynau hyn ydy 40 munud, i gynnwys hyd at 10 munud i’r client gael adrodd yn ôl ar / rhoi sylwadau ar sut mae wedi teimlo ers y sesiwn cyntaf. Yna, fe geir 30 munud o driniaeth.

Gostyngiad pris am gyfres o driniaethau
4 x 40 munud = £120 (Arbed £8)

Adweitheg Uwch i’r Wyneb (40 mun)

1 Triniaeth: £48
3 Triniaeth: £140
6 Triniaeth: £275

Triniaethau Corun i’r Sawdl

Pecyn 40/40 (Wyneb 40 mun + Traed 40mun): £78
Pecyn 40 / 20 (Wyneb 40 mun + Traed 20 mun): £68
Pecyn 20 / 40 (Wyned 20 mun + Traed 40 mun): £58

Er bod un driniaeth yn hyfryd a buddiol, mae cwrs o 3 neu 6 triniaeth, wythnos ar wahân, yn fwy effeithiol, yn enwedig pan yn ymdopi â chyflwr penodol.

Tylino Pen Indiaidd

Tylino Pen Indiaidd: £28
Bydd y sesiwn hwn yn cymryd oddeutu 10 munud i gymryd manylion meddygol y client, gyda thylino’r pen i ddilyn am oddeutu 35 munud. Dylid neilltuo 40 – 45 munud ar gyfer y sesiwn cychwynnol hwn.

Bydd y sesiynau i ddilyn yn cymryd oddeutu 35 i 40 munud, yn cynnwys adolygiad byr o sut mae’r client yn teimlo ers y driniaeth flaenorol.

Mae’r math hwn o dylino yn ddelfrydol ar gyfer ystod eang o symptomau, er enghraifft, poen neu densiwn yn y gwar, cefn neu ysgwyddau. Gall hefyd wella gwead a chyflwr y gwallt, problemau gyda’r sinws, a phatrymau cwsg. Yn gyffredinol, mae’n rhyddhau tensiwn ac yn ymlacio’r corff, gan roi ymdeimlad o fodlonrwydd.

Cynnig Am yn Ail

Os na fedrwch benderfynu ar ba driniaeth i’w chael, beth am ddewis un o’r pecynnau hyn, sydd yn rhoi hanner o sesiynau Adweitheg a hanner o sesiynau Tylino Pen Indiaidd.

2 x Adweitheg + 2 x Tylino Pen Indiaidd = £140 (Arbed £6)

Pecyn Perffaith

Y Pecyn Perffaith i gael cydbwysedd rhwng y corff a’r meddwl. Cychwyn gyda thriniaeth Tylino Pen Indiaidd cyn parhau i ymlacio gydag Adweitheg wedi’i deilwra i’ch anghenion personol.

75 munud o’r Pecyn Perffaith: £70

Trîts Traed Fyny

Trochi Traed neu Dwylo £12 (15 munud) î

Eisteddwch yn ôl a mwynhewch gynnyrch Neal’s Yard mewn baddon o ddŵr cynnes i helpu chi ddadflino ac ymlacio cyn triniaeth arall o’ch dewis chi. Nid baddon cyffredin ‘mohonno ond un sydd ag ardal fagnetig i helpu hyrwyddo cylchrediad y gwaed, i ryddhau tensiwn cyhyrol a gwella ansawdd y croen. Wedi eu trochi a’u sychu bydd hufen traed/dwylo Neal’s Yard o’ch dewis chi yn cael eu rhoi arnynt. (Noder mai ychwanegiad yw’r driniaeth yma)

Pecyn Hunan-Ofal o £12

Beth am fynd â Phecyn Hunan-Ofal wedi’i deilwra gyda chynnyrch hyfryd Neal’s Yard adra gyda chi, a’i wneud yn flaenoriaeth rhwng sesiynau?

Bocs codi calon o £12

Chwilio am rhywbeth i godi calon neu i’w roi’n anrheg? Gadewch i mi awgrymu ambell i beth addas gan Neal’s Yard, ychwanegu nodyn bach, ei barselu’n ddel a’i bostio / paratoi ar eich cyfer

Cynigion Arbennig

Peidiwch â cholli ein cynigion rheolaidd – dilynwch ni ar Facebook nawr.