Triniaethau Adweitheg

Straen a Phryder

Mae straen yn arferol, mewn cyfnodau byr. Mae’n ffordd gadarnhaol i ddarparu hwb ychwanegol o ynni, yn ein cadw’n iach, gydag awch am fywyd. Yn anffodus, pan ddaw’r straen tymor byr yn straen tymor hir, fe fydd yr agwedd gadarnhaol yn troi’n negyddol.

Pan mae straen yn dymor hir, mae’n effeithio’r corff cyfan-

• Yr anawsterau cysgu amlwg, a gofid emosiynol
• Cynyddu curiad y galon a chodi pwysau gwaed
• Tensiwn yn y cyhyrau, gan arwain at boen ac anghysur
• Materion traul, megis IBS
• Gwanhau neu analluogi’r system imiwnedd, neu’r system atgenhedlu.

Fe ddilyna, felly, bod lleihau straen yn y byd prysur hwn yn fuddiol i’n lles emosiynol a’n lles corfforol.

Mae’r ateb mewn Adweitheg – triniaeth anymyrgar i gychwyn y broses o ymlacio, a thrwy hynny, lleihau straen, rhoi hwb i’r egni, ac ail-gydbwyso’r corff a’r meddwl.

Iechyd Menywod

Bydd hormonau yn dylanwadu ar gyrff menywod o ddechrau’r glasoed a thrwodd i’r menopos a thu hwnt. Mewn geiriau eraill – am y rhan fwyaf o’u bywydau fel oedolion. Er bod y prosesau hyn yn hollol naturiol ac sydd ddim, neu bron ddim yn effeithio ar fenywod, mae llawer eraill yn dioddef problemau sy’n gysylltiedig ag un, neu fwy nag un, o’r symptomau hyn – misglwyf trwm neu boenus, syndrom cyn-misglwyf (PMS) endometriosis, syndrom poli ofari ffibrosis neu symptomau y menopos. Gall hyn effeithio ar ansawdd bywyd menywod, i raddau bach, neu fawr.

Gellir cydbwyso hormonau a gellir rhoi hwb i’r gallu i ymlacio gydag adweitheg glinigol. Mae ymchwil yn cefnogi’r farn fod adweitheg yn fuddiol i rai achosion o anghydbwysedd hormonau (e.e. menopos, cyfnodau poenus a PMS).

Mae Nia yn bersonol wedi cael llwyddiant mawr yn helpu menywod sy’n dioddef anghydbwysedd hormonaidd.

Iechyd Dynion

Adweitheg i ddynion. Gadewch i ni dorri drwy’r rhwystrau a chael gwared ar y stigma hen ffasiwn! Mae Adweitheg o fudd i ddynion lawn cymaint ag y mae o fudd i fenywod. Nid yw’r therapi amgen hwn yn canolbwyntio ar ferched yn unig. Mae angen i’r dyn modern heddiw fod yn llawer mwy agored i roi cynnig ar y therapïau hyn. Ferched – gallwch roi hwb iddynt gydag ychydig o berswâd – neu gydag un o fy nhalebau anrheg. Ddynion – byddwch yn flaengar, yna anogwch eich cyd-ddynion i ddilyn eich esiampl. Nid oes gennych unrhyw beth i ‘w golli, ond llawer i’w ennill. Efallai eich bob yn teimlo embaras am eich traed, ond nid yw hynny’n unigryw i ddynion! Bydd y manteision a enillir yn fwy o lawer na’r mân broblemau hynny. Yr wyf wedi trin traed dynion, ac mae eu hadborth bod tro yn galonogol. Roedd datgelu eu traed yn agor eu llygaid mewn gwirionedd.

Mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym nad yw straen yn amlygu ei hun mewn menywod yn unig. Mae menywod yn teimlo blinder a diffyg egni. Mae dynion hefyd yn teimlo blinder a diffyg egni. Mae menywod yn dioddef llawer o anhwylderau. Mae dynion yn dioddef llawer o anhwylderau. Nid yw dynion yn fodau goruwch sy’n llwyddo i osgoi’r cyfan a dafla bywyd atynt. Mae’n debyg y bydd rhai dynion yn gwastraffu mwy o amser ac ynni na menywod yn anwybyddu’r holl negyddiaeth. Ond, gellir gwella neu annog gallu strategaeth dynion i ymdopi. Yn gyffredinol, mae menywod yn fwy parod, neu’n fwy abl, i fod yn agored, i drafod gyda ffrindiau, ond mae dynion yn teimlo bod angen iddynt gadw materion iddynt hwy eu hunain. Mae melltith iechyd meddwl yn ein cymdeithas gyfoes, – i ddynion a merched. Mae manteision Adweitheg yn gyfartal, ar gyfer dynion a menywod.

Dysgwch i werthfawrogi Adweitheg. Peidiwch â diystyru ei fanteision.

Draeniad Lympff Adweitheg (DLA)

Mae’r math yma o Adweitheg yn canolbwyntio ar ysgogi’r datblygiadau lympffatig yn y traed (a’r dwylo). Mae’n dechneg arobryn ac yn cael ei ddefnyddio fel rheolaeth ar gyfer unigolion sy’n dioddef o lympffoedema. Sally Kay sydd wedi ymchwilio a datblygu’r dilyniant unigryw hwn. Mae Sally wedi ennill amryw o wobrau ym maes Adweitheg, fel ymarferydd, ymchwilydd, addysgwr ac awdures – a Sally ei hun sydd wedi fy’m hyfforddi. Mae hi wedi fy nysgu i sicrhau canlyniadau wneith eich synnu bob tro y rhoddaf driniaeth.

Diffinio DLA a’i werthoedd

Mae’n ffordd unigryw o ddefnyddio Adweitheg drwy ddefnyddio symudiadau penodol a gynlluniwyd i dargedu’r system lympffatig, a thrwy wneud hynny, bydd yn ei ysgogi. Mae’n canolbwyntio ar y traed, neu’r dwylo yn unig. Nod hyn yw annog yr hylif lymff i lifo, fel y bydd yn draenio allan o’r man trafferthus ac i mewn i fan nad effeithir arni, ac sydd felly’n draenio’n naturiol. Yn dilyn, bydd llai o chwyddo, a bydd tocsinau a rhwystrau yn cael eu gwaredu mewn ffordd naturiol, oherwydd ymateb ac ysgogiad y corff. Yn anhepgor i’r broses hon ydy’r sicrhad bod gallu’r corff i frwydro yn erbyn heintiau hefyd yn cael hwb.

Gellir teimlo canlyniadau’r DLA ar unwaith-mae’r man yr effeithir arni yn teimlo’n llai trwm, ac yn llai tynn, a gellir gweld gostyngiad yn chwydd. Yn aml mae hyn yn wir ar ôl dim ond un driniaeth. Fodd bynnag, bydd rhai cleientiaid yn dewis mesur y cymal a effeithir arni cyn, ac ar ôl y driniaeth, a nodi’r gwahaniaeth.

Defnyddir DLA i fynd i’r afael â nifer o symptomau amrywiol nid lympffoedema yn unig. Gall hefyd gynorthwyo cleientiaid sy’n dioddef:

Arthritis, asthma, blinder llethol, ecsema, fibromyalgia, ME, problemau gyda’r sinwses, a thensiwn yn y cyhyrau.

Os hoffech ddarllen mwy amdano, dilynwch y ddolen hon:

https://www.reflexologylymphdrainage.co.uk/

Mae’r dull arloesol hwn i Adweitheg eisoes wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol; ac ar gael o fewn tafliad carreg i chi – yn Ninbych!

Lles yn y Gweithle

Gadewch i mi ddod atoch chi!

A oes gennych chi weithwyr sydd o dan straen, neu yn absennol o’u gwaith yn aml? Unigolion sy’n ei chael yn anodd cael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, ddim y sicr os ydynt yn mynd neu’n dod? Yn ein byd modern, beth am gymryd yr awenau – dangos blaengaredd, a sicrhau fod eich gweithlu yn fodlon eu byd? Mae eu lles a’u daioni yr un mor bwysig (ac yn dylanwadu ar) eu perfformiad yn eu gwaith.

Rwyf yn cynnig triniaethau Adweitheg Traed neu Ddwylo a/neu Dylino Pen Indiaidd (dros ddillad) yn y gweithle a all fod o fudd i’r gweithiwr a’r cyflogwr.

Manteision i’r gweithwyr
– Hyrwyddo a chynnal iechyd da
– Lleihau straen
– Gwella’n gynt wedi salwch
– Gwrthsefyll salwch ac afiechydon yn well
– Rhoi hwb i hyder a gwella perfformiad
– Cydbwysedd gwell rhwng eu gwaith a’u bywyd personol

Manteision i’r cyflogwr
– Cynyddu morâl a ffyddlondeb
– Llai o broblemau a achosir gan straen
– Gwella delwedd ac enw da’r cwmni
– Gweithlu sydd â mwy o gymhelliant
– Gwella canolbwyntio a natur gynhyrchiol
– Arddangos ymrwymiad i les y gweithlu

Triniaethau Penodol
Pe dymunir, ym mhob triniaeth Adweitheg, gellir ymgorffori technegau gwahanol ar gyfer cyflyrau gwahanol.

Gallwch wneud apwyntiad i mi ddod atoch chi. Cysylltwch i drafod.