Tylino Pen Indiaidd

Tylino Pen Indiaidd

Mae Tylino Pen Indiaidd yn ymwneud ag ystwytho top y cefn, yr ysgwyddau, rhan uchaf y breichiau, y gwddf, y wyneb a’r croen pen (gyda chleientiaid yn eistedd ar gyfer y driniaeth). Mae’r math hwn o waith tylino yn gweithio ar rannau penodol y corff, yn enwedig y gwddf a’r ysgwyddau lle mae straen yn amlwg, ac yn aml gall ddod â rhyddhad ar unwaith. Mae ymlacio’r cyhyrau hyn yn gwella llif y gwaed, lleddfu pryder ac ymlacio’r corff cyfan. Mae cylymau a nodiwlau yn ymdoddi ymaith tra bo’r tensiwn yn gadael y corff. Hefyd, fe geir manteision i’r system lymffatig a system cylchrediad y gwaed wrth i’r tocsinau chwalu o’r cyhyrau tynn, fel bod hyblygrwydd a llif y symudiadau wedi eu hadfer.

Bydd cyfuniad o symudiadau rhythmig yn cysuro ac ail-gydbwyso’r llif egni, ac yn creu ymdeimlad cryf o dawelwch.

Cysylltwch