Neal’s Yard Remedies Organic

Yn 2020 ymunais â Neal’s Yard Remedies Organic fel Ymgynghorydd Annibynnol sy’n golygu y gallaf ehangu profiad triniaethau’r cleientiaid trwy ddefnyddio cynnyrch Organig Neal’s Yard Remedies. Mae cynnyrch Neal’s Yard Remedies Organic (NYRO) yn ychwanegu’r ‘rhywbeth bach arbennig’ yna i’r triniaethau gyda chleientiaid yn aml yn gwneud sylwadau ar ba mor hyfryd mae’r cynnyrch a fy ‘stafell driniaeth yn arogli!

Gan eu bod yn eiriolwyr angerddol dros fyw’n organig, mae NYRO eisiau helpu pobl i fyw bywydau hapusach ac iachach a gwarchod ein planed hardd. Gwneir y cynnyrch gan ddefnyddio cynhwysion naturiol ac organig, heb gemegion niweidiol, ac maent yn ein helpu i deimlo ac edrych yn dda yn naturiol o’r tu mewn ac allan.

Rwyf hefyd yn cynnal Gweithdai Lles (dros Zoom ar hyn o bryd) i roi cyfle i chi drio gwahanol gynnyrch a dysgu sut y gallwch wella’ch lles trwy eu cynnwys yn eich rwtîn ddyddiol. Cysylltwch am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch os oes gennych ragor o gwestiynau neu os hoffech drefnu Gweithdy Lles.