MWY AM NIA
Mae gan Nia Ddiploma Lefel 5 fel Ymarferydd Adweitheg. Dyma’r lefel uchaf o gymhwyster ar gyfer Adweitheg yn y DU. Cymhwyster a neilltuir i nyrsio, a’r pynciau a’r galwedigaethau perthynol i’r sector feddygaeth, ar hyn o bryd.
BETH YW ADWEITHEG
Adweitheg yw triniaeth ymlaciol iawn, a ddefnyddir gan lawer i leihau straen, gorbryder, tensiwn a phoen. Mae’n hen gelfyddyd gwellhad a ddefnyddir drwy weithio’r dwylo ar y traed i symbylu gwasgbwyntiau. Mae’n seiliedig ar y ddamcaniaeth y gellir gweld map o weddill y corff ar y traed. Rhoddir pwysau ar bwyntiau atgyrchol sydd wedi eu mapio ar draed y cleientiaid. Mae’r pwyntiau atgyrchol hyn yn cyfateb i organau penodol a rhannau o’r corff drwy feridians egni.
TALEB ARCHEB
Rhowch anrheg llesol i rywun gyda
Thaleb Archeb Traed Fyny
Wrth glicio ar y ddolen isod bydd modd i chi brynu Taleb Digidol fydd yn cael ei ebostio atoch/at y derbynnydd. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yn ddilys am 6 mis o’r dyddiad prynu, ac mae’n gyfrifoldeb arnoch chi i rannu’r wybodaeth yma gyda’r derbynnydd.
(Noder hefyd mai Taleb Saesneg sydd ar gael yn ddigidol am rwan).
Os dymunwch gallwch nol Taleb Archeb wedi’i chyflwyno mewn bocs rhodd pwrpasol. Cysylltwch drwy ebost neu neges destun yn nodi’n union eich dymuniad. Mae modd dewis taleb Cymraeg neu Saesneg gwerth £25 neu fwy, ac, os nad yw amser yn brin gallaf gynnig gwasanaeth postio am ffi bach ychwanegol.
